markbutler1978markbutler1978@toot.wales
Nov 22, 2026, 9:32 PMDybl pêl-droed dros y penwythnos! Ches i ddim bwriad i wylio yn Neuadd y Parc, ond ar ôl i mi wneud fy nyletswydd yn Cheshire Oaks, ac oherwydd y gêm yn dechrau am 5.15yh, gwelais i gyfle. Cyfle i Wrecsam hefyd, i greu bwlch ar y brig yn Adran Premier, rhywbeth maen nhw wedi gwneud, 3-0 i fyny ar ôl hanner awr (2 gol ei hun!). Diflannodd y dwyster wedi hynny, fel petai bawb yn cofio dyma amser Songs of Praise yn lle pêl-droed. Gôl yn ôl yn y munud olaf ond noson gyfforddus i Wrecsam #peldroed



