Dewch i weld ein Prif Weinidog yn trafod ei uchelgais dros Gymru
https://melindrafod.cymru/2026/11/02/y-prif-weinidog-uchelgais-dros-y-genedl/
Dewch i weld ein Prif Weinidog yn trafod ei uchelgais dros Gymru
https://melindrafod.cymru/2026/11/02/y-prif-weinidog-uchelgais-dros-y-genedl/
RE: https://toot.wales/@rhysw/117490659703023130
Cofiwch am y digwyddiad yma heno.
Er cof am Juan Atkins
Dwi'n meddwl mynd â'r teulu i'r Gelli Gandryll yr wythnos hon - tro cyntaf i fi (mae o leiaf un plentyn wedi bod i'r Ŵyl gyda'r ysgol). Heblaw am 'Paid â mynd yn wirion', oes gyda chi tips?
All rhywun adnabod yn darn hynod yma o arfordir Cymru o hysbyseb Trafnidiaeth Cymru? Mae map o Gymru mewn sdeil tebyg ar y wefan hefyd. I be?
https://trc.cymru/taithcymru
#TrC #TfW
Mae defnyddio LLMs ar gyfer gwaith cynhyrchu dogfennaeth mewn achosion llys yn hollol dwp. Mae pwyntiau defnyddiol am yr union beryglon yma ta waeth.
https://nation.cymru/feature/why-police-have-been-told-to-pause-their-use-of-ai-in-court-cases/
Parti pen-blwydd Wikipedia yn 25 oed.
Caerdydd. 3/11/26
Mae 2026 yn nodi 25 mlynedd o Wikipedia. Mae'r digwyddiad yn gyfle i Wicimedwyr o Gymru i gymdeithasu gyda Wicimedwyr eraill a sôn am bopeth cyffrous ar Wiki.
Manylion a cofrestru:
https://meta.wikimedia.org/wiki/Meetup/Cardiff/Pen-blwyddWici
#Caerdydd #Wicipedia #Cymraeg
Gwefan diddorol gyda nifer o gemau iaith yn Gymraeg. Rwy'n hoffi 'Trefnus', ei fersiwn nhw o Only Connect. https://geiriau.net/
Ond beth am y corfforaethau sy'n rheoli pa gynnwys sy'n cael amlygrwydd ar y llwyfannau mawrion? Byddai hi'n dda tasai'r Comisiynydd yn cael gorfodi nhw - neu ddylanwadu arnyn nhw o leiaf - i weithio o blaid y Gymraeg.
@carlmorris dwi'n defnyddio ac yn licio Librera FD https://f-droid.org/packages/com.foobnix.pro.pdf.reader/
@carlmorris Dw i'n licio Koreader. Mae'n tipyn cymhleth yn y dechrau, ond mae cymaint o bosiblrwydd i'w addasu. Dydy e ddim ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd.
https://github.com/koreader/koreader
Dyw rhyngwyneb Cool Reader GL ddim yn amlwg i mi. Dw i nawr yn trio Librera sy'n haws ond mae'n cynnwys hybysebion - yn yr ap.
Beth yw eich hoff ap e-ddarllenydd ar Android ar gyfer ePub, PDF ac ati sydd hefyd yn feddalwedd rydd a chod agored?
Hyd y gwelaf i mae bwlch sydd angen ei lenwi yn Gymraeg.
Newydd fynd yn fyw, wedi ei ddatblygu ar frys.
"Mae hi’n hen bryd i ni yng Nghymru fod yn ddewr a chymryd rheolaeth dros ein cyfryngau a mynnu setliad ariannol digonol ar eu cyfer."
https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2207269-torri-gynnwys-gwreiddiol
Nid yw darlledu Cymru yn ddiogel mewn ychydig o ddwylo yn Llundain.
Arwyddwch y ddeiseb sy'n galw am
- ddiogelu darlledu Cymru
- sicrhau dyfodol y Gymraeg ar bob llwyfan, sgrin a thonfedd
- datganoli darlledu ar frys.
https://cymdeithas.cymru/newyddion/lansio-deiseb-dros-ddiogelu-darlledu-cymru-2026-09-29
Breuddwydio am Gymru annibynnol - araith ardderchog gan Hywel Griffiths https://youtu.be/gSv6WHqFcAs
Darlith gyhoeddus am ddiwylliant #Rave y 90au. #cerddoriaeth
https://toot.wales/@calendr@360.cymru/117355473379825768